Adroddiad Blynyddol i'r Rhieni

Ysgol Gynradd Brynaman

 Adroddiad Blynyddol i Rieni

ar 31/08/19

Blwyddyn Ysgol 2018-2019

Cyfeiriad:                                         Brynceunant, Bynaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 1AH.

Rhif Ffôn:                                          (01269) 822108

Cyfeiriad e-bost:                                admin@brynaman.ysgolccc.cymru

Cyfeiriad gwefan:                               www.ysgolccc.org.uk/brynaman

Nifer ar y gofrestr                               20/07/19                             298 disgybl

Trefniadaeth Staff:

Cyfnod Sylfaen M R/A –

Cyfnos Sylfaen M – Miss C Thomas

Cyfnod Sylfaen D – Mrs F Harries

Cyfnod Sylfaen 1 – Miss N Thomas

Cyfnod Sylfaen 2 – Miss C Griffiths

Cyfnod Sylfaen 3- Mrs M Jones (Pennaeth Cynorthwyol)

Blwyddyn 3 – Mrs R Evans

Blwyddyn 3/ 4 – Mr A Kiley

Blwyddyn 4 – Mrs S Page

Blwyddyn 5 – Miss G Beynon

Blwyddyn 5/6 – Mrs E James

Blwyddyn 6 – Mrs A Stevenson (Dirprwy Bennaeth)

Cefnogi Anghenion Arbennig – Mr A Kiley

Pennaeth – Mr N Jones

Cynorthwyydd Gofal/Cynorthwyydd Dosbarth – Mrs E Morgan; Mrs C James; Mrs S Williams; Mrs S Howells Miss L Lewis; Miss K Dean; Mrs J Thomas; Mrs C Davies; Mrs D Davies; Miss J Davies;  Ms R Lloyd; Miss L Popple; Mrs H Davies; Mrs C Wenten-Cope; Mrs J Rees.

Staff Ategol:                                          

Cogydd – Ms N Bowen

Cynorthwywyr –  Mrs C Thomas; Mrs P Griffiths

Gofalwr – Mr G Evans

Glanheuwyr – Mrs S Jones; Mrs L Hutchings; Mrs P Griffiths

Goruchwylwyr Canolddydd – Mrs L Rees; Mrs B Brosnan; Miss K Rees; Miss L Hurley; Miss L Rees; Miss J Davies; Mrs D Davies; Miss K Dean; Miss L Popple; Mrs C Wenten-Cope; Mrs H Davies

Swyddog Gweinyddol – Mrs J Davies

Penderfyniadau:

Ni chafwyd yr un penderfyniad yn y cyfarfod y llynedd am for neb wedi gofyn am gyfarfod.

Darparu ar gyfer Anghenion Arbennig:

Cyflogir Mr A Kiley yn llawn-amser ar gyfer monitro’r cwricwlwm a chyd-lynu’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion arbennig. Mae’r drefn hon yn ddull buddiol i’w ddefnyddio i ateb gofynion cwricwlwm y plant.

Staff Peripatetig:

Daw’r athrawon cerdd ganlynol i’r ysgol.

                                Pres:                   Mr E Alexander                   (2 awr)

                                Llinynnol:             Mrs G Thomas                     (1 awr)

Athrawes Fro:

Daw aelodau o’r adran yma i gefnogi’r ysgol i roi cefnogaeth ychwanegol i ni ddysgu’r Gymraeg.  Yn ystod y flwyddyn mae nifer o ddisgyblion yr ysgol wedi cael cefnogaeth yn wythnosol.  Mae sesiynau mathemateg yn ychwanegol.

Myfyrwyr/Profiad Gwaith:

Mae’r ysgol wedi croesawu nifer o fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd i gynnal eu hymarfer dysgu. Hefyd, daw nifer o ddisgyblion o’r ysgolion cyfun lleol ar brofiad gwaith.

Presenoldeb:        % presenoldeb (yn cynnwys Meithrin)

Tymor yr Hydref 2018:           95.47 %

Tymor y Gwanwyn 2019:       94.87 %

Tymor yr Haf 2019:              93.59%

Presenoldeb y Flwyddyn 2018/2019:      94.74%

Canran absenoldeb anawdurdodedig dros y tymhorau uchod: 0.72%

Canran absenoldeb anawdurdodedig dros y tymhorau uchod: 1.29%

Canran absenoldeb anawdurdodedig dros y tymhorau uchod: 2.07%

Adeiladau:

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi ac yn diolch i Mrs S Jones, Mrs L Hutchings a Mrs P Griffiths am eu gwaith yn glanhau’r ysgol a chynnal safon uchel o lanweithdra.  

Prosbectws yr Ysgol:

Mae’r Prosbectws cyfredol ar gael o’r swyddfa ac yn cael i’w ddosbarthu i ddechreuwyr newydd.

Datblygu’r Cwricwlwm:

Nod yr ysgol yw darparu cwricwlwm cytbwys yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn ysgogi datblygiad addysgol, emosiynol a chymdeithasol pob plentyn yn unigol. Mae ymarfer a gweithdrefnau’r Cyfnod Sylfaen yn eu lle.

Defnyddir gweithdrefnau gwahaniaethol i ddatblygu potensial pob plentyn i’w lawn dwf. Rydym yn amcanu i gyrraedd y nod mewn amgylchedd bywiog, cartrefol, diddorol a chreadigol. Gellir cael golwg yn yr ysgol ar ddogfennau polisi’r ysgol ym mhob maes a phwnc; mae cynlluniau gwaith ym mhob maes pynciol ar waith hefyd – yn unol â chanllawiau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Sut bynnag, gan fod addysg yn prysur newid bron yn ddyddiol, mae’r polisïau a’r cynlluniau gwaith hyn yn cael eu monitro a’u hadolygu’n barhaus.  Maent yn cael eu gwirio yn flynyddol gan y Corff Llywodraethol ym mis Mehefin.

Cynlluniau Gweithredu:

Lluniwyd cynllun gweithredu priodol ac mae ‘ar lawn waith’. Mae cyswllt agos rhyngddo â’r Cynllun Datblygu Ysgol a hefyd dogfennau Hunan-arfarnu’r Ysgol sy’n cael eu adolygu’n flynyddol.

Cynnydd mewn gosod a chyfarfod â thargedau:

Gwelir y targedau a osodwyd gan yr ysgol yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol. Gosodir y targedau yn flynyddol – yn dargedau tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Gosodir y targedau ar gyfer yr ysgol, y dosbarthiadau, y grwpiau a disgyblion yn unigol. Ar hyn o bryd mae’r ysgol ar y blaen ac yn rhagori ar y targedau a osodwyd. Rhoddwyd cychwyn hefyd ar dargedau llythrennedd a rhifedd. Mae’r ysgol yn gosod targedau, sy’n gymesur a’u gallu a’u cyrhaeddiad, ar gyfer pob disgybl.  Mae’r plant yn gosod targedau personol fel dysgwyr annibynnol.

Cynnydd tuag at gyflawni’r nodau yn y Campau a Llwyddiannau yn y Campau:

Medda’r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys yn y Campau ac Ymarfer Corff, sy’n ymdrin yn bendant â datblygu sgiliau. Mae timau’r ysgol yn llwyddiannus iawn, gyda nifer o unigolion a thimau yn cynrychioli’r rhanbarth, y Sir a thimau cenedlaethol.

Manylion Pellach:

Byddwn yn parhau i ddefnyddio nosweithiau cwricwlwm i sicrhau bod rhieni yn ymwybodol o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cyfnod Sylfaen a’r dulliau dysgu a ddefnyddiwn i gyflwyno’r rhaglenni astudio.  

Mae’r athrawon hefyd wedi mynychu nifer o gyrsiau yn ymdrin â datblygu’r cwricwlwm a defnyddiwyd y diwrnodau hyfforddiant mewn swydd a gawn unwaith bob tymor i sicrhau datblygiad pellach. Rydym yn prynu’r cyrsiau HMS oddi wrth yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill. Mae modiwl Rheoli Perfformiad llwyddiannus ar waith yn yr ysgol ar hyn o bryd ac mae arsylwi’r gwersi, archwilio llyfrau a theithiau dysgu yn strategaeth ysgol gyfan.

Mae’r adran iau yn defnyddio strategaeth addysgu sy’n seiliedig ar y pynciau ac fel arfer maent yn rhedeg mewn cylch dwy flynedd. Mae’r gwaith a roddir i’r disgyblion yn ymdrin â gofynion rhaglenni astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac yn gymesur â gallu cynhenid y plentyn. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn ateb y meini prawf uchod trwy ddefnyddio strwythur yn seiliedig ar themâu. Gweithredir grwpiau ffocws yn y pynciau craidd.  Mae Rheoli Perfformiad yn strategaeth ddi-baid, a gynhelir gan y Pennaeth a’r Uwch Dîm Rheoli.

Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn ymwneud â’r Rhaglen Eco Ysgolion, y Cynllun Bwyta’n Iach, Cyngor yr Ysgol a’r Siarter Iaith.

Cofrestr Anghenion Arbennig:

Cedwir Cofrestr Anghenion Arbennig a chaiff ei adolygu’n aml. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i fonitro anghenion y disgyblion hynny sydd angen cymorth ychwanegol, ac y mae’n gyfunion â gofynion Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig. Ar hyn o bryd dyma’r sefyllfa yn y gofrestr AY:     

                                                Cam CY:                                  13.3%

                                                Cam CY+:                                18.3%

                                                Cam D:                                      1.0%

Disgyblion ag Anabledd: Trefniadau Derbyn a Threfniadau Hygyrchedd:

Derbynia’r ysgol ddisgyblion ag anabledd wedi cydgysylltu manwl gyda’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill. Mae mynediad i’w gael i’r ysgol ar hyd esgynfeydd ac mewn lifft. Mae’r ysgol yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn digwydd. Mae’r polisïau perthnasol mewn bod ac ar waith.

Trefniadau Diogelwch y Disgyblion, y Staff a’r Adeiladau:

Mae larymau diogelwch wedi eu gosod ar draws yr ysgol. Mae drysau newydd, na ellir eu hagor o’r tu allan,  wedi eu gosod hefyd. Mae’r staff yn sicrhau bod diogelwch y plant yn gyntaf ac yn bennaf o’u cyfrifoldebau. 

Gweithgareddau – gan gynnwys cyswllt â’r cartref a’r gymuned:

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus rhieni a chyfeillion yr ysgol sy’n cynorthwyo gydag amrywiaeth o weithgareddau sydd yn dod ag elw i addysg y plant ac sy’n ychwanegu at yr ethos o ddatblygiad parhaus rydym yn ei arddel yn yr ysgol. Nod yr ysgol yw darparu cyfleoedd cyfartal, gan gynnwys pob cyfle i ddisgyblion ag anabledd. Mae gennym gyswllt cryf gyda’r gymuned a byddwn yn parhau i atgyfnerthu’r maes hwn o’n gweithgarwch. 

Clwb Brecwast

Mae’r Clwb ar agor rhwng 8.00 ac 8.45yb.

Clwb ar ôl ysgol:  Clwb Plant Brynaman

Cesglir y plant o’r ysgol ar ddiwedd y dydd ac amser cinio sy’n cynnwys trosglwyddiadau.

Eco Ysgolion:

Rydym wedi ail ennill y Faner Werdd i’r Platinwm lefel ohoni.

Cyfleoedd Cyfartal a Pholisi Cydraddoldeb Hiliol:

Mae’r polisi priodol ar lawn waith.

Canlyniadau Asesu Statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol:

Gweinyddwyd Asesiadau Athro yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn ystod y flwyddyn ysgol hon. 

Mae’r tablau canlynol yn rhoi’r manylion am Fechgyn, Merched a Bechgyn/Merched. Dangosir hefyd canran y disgyblion lwyddodd i gyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd yn yr ysgol hon.  I gyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd rhaid i’r disgyblion gyrraedd o leiaf Deilliant 5 mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg fel mamiaith neu Saesneg yn gyfunol yn y Cyfnod Sylfaen neu gyrraedd Lefel 4 yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae canlyniadau’r ysgol ar gael ar Fy Ysgol Leol.

Gweithgareddau Ysgol a Gweithgareddau Allgyrsiol:

Mae’r ysgol wedi mynychu a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, campwriaethau, digwyddiadau cerddorol, Eisteddfodau, cyngherddau a pherfformiadau ar hyd y flwyddyn. Rhoddir calendr digwyddiadau i’r rhieni sy’n amlinellu’r gweithgareddau hyn ac fe’u cofnodir hefyd ar wefan yr ysgol.

Cyrchfan y Disgyblion sy’n Trosglwyddo i Addysg Uwchradd:

Ysgol Dyffryn Aman oedd prif gyrchfan bron pob disgybl y llynedd.

Cymdeithas Rieni, Ffrindiau ac Athrawon:

Mae’r Gymdeithas hon yn trefnu digwyddiadau ar hyd y flwyddyn gron, yn cynnwys ffeiriau Haf a Nadolig llwyddiannus.

Materion yn ymwneud â Chyllid:

 Arian y Pen 2018/19:                                                                    £15,000.00

 Cyllideb Flynyddol 2018/19:                                                         £952,195.00

Elusennau:

Cyfrannodd yr ysgol tuag at Gronfa Plant Mewn Angen a nifer o elusennau eraill.

Cyfraniadau:

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi’r holl roddion a gafodd dros y flwyddyn hon.

Diweddglo:

Dymunaf gyflwyno fy niolch personol i staff yr ysgol, y rhieni a’r plant am eu cefnogaeth a’u gwaith caled parhaus dros y flwyddyn ysgol. Rhof fy niolch hefyd i aelodau’r Corff Llywodraethol am eu cymorth a’u cefnogaeth. Er hyn, yr elfen bwysicaf oll yw’r plant, maent yn allweddol i ysgol rhagorol. Diolchaf yn ddiffuant iddynt am eu diwydrwydd a’u brwdfrydedd. 

Ymddeolodd Mrs C Morris yr Hydref diwethaf, diolchaf iddi am ei chymorth a’i chefnogaeth yn ystod eu hamser yn yr ysgol.  Symudodd Miss  Lewis ymlaen i swydd newydd, dymunaf y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

Fe gawsom lwyddiannau mawrion y llynedd – yn staff, rhieni, plant a Llywodraethwyr. Rhaid adeiladu ar y fath lwyddiant er mwyn datblygu’r ysgol ac er mwyn i bob plentyn gyrraedd eu llawn botensial.

Diolch am eich cefnogaeth, cymorth a chydweithrediad.

Lee James

(Pennaeth)

31/08/19