Cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru

https://cdnfiles.j2bloggy.com/31823_b/wp-content/uploads/2023/06/Crynodeb-o-Gwricwlwn-i-Gymru-Ysgol-Brynaman.pdf

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) wedi ei gynllunio i helpu athrawon ymgorffori llythrennedd a rhifedd ym mhob pwnc i ddysgwyr rhwng 5 a 14 oed.

O fewn llythrennedd disgwyliwn dysgwyr i ddod yn fedrus yn:
• llafaredd ar draws y cwricwlwm
• darllen ar draws y cwricwlwm
• ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.

O fewn rhifedd disgwyliwn i ddysgwyr i ddod yn fedrus yn:
• datblygu rhesymu rhifiadol
• defnyddio sgiliau rhif
• defnyddio sgiliau mesur
• defnyddio sgiliau data.

http://learning.gov.wales/resources/browse-all/nlnf/framework?lang=en#/resources/browse-all/nlnf/framework?lang=en

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae’r Fframwaith yn nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo mewn byd cynyddol ddigidol.

Mae cymhwysedd digidol yn un o 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd (y lleill yw llythrennedd a rhifedd). Mae’n canolbwyntio ar sgiliau digidol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o bynciau a sefyllfaoedd.

Cafodd y Fframwaith ei ddatblygu gan ymarferwyr o Ysgolion Arloesi gyda chymorth arbenigwyr allanol. Mae iddo 4 llinyn sydd cyn bwysiced â’i gilydd. Mae i bob llinyn nifer o elfennau.

  • Dinasyddiaeth – sy’n cynnwys:
    • Hunaniaeth, delwedd ac enw da
    • Iechyd a lles
    • Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth
    • Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio.
  • Rhyngweithio a chydweithio – sy’n cynnwys:
    • Cyfathrebu
    • Cydweithio
    • Storio a rhannu.
  • Cynhyrchu – sy’n cynnwys:
    • Cynllunio, cyrchu a chwilio
    • Creu
    • Gwerthuso a gwella.
  • Data a meddwl cyfrifiadu – sy’n cynnwys:
    • Datrys problemau a modelu
    • Llythrennedd gwybodaeth a data.

http://learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?skip=1&lang=cy


Cofnodi Cynnydd 

Er mwyn arddangos y cynnydd a wneir gan bob disgybl ymhob cyfnod o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd yr athrawon yn cadw cofnod o’r gwaith gorffenedig a’r lefelau a gyrhaeddir. Bydd y cofnodion hyn yn darparu gwybodaeth i athrawon, rhieni ac ysgolion eraill. 

Bydd asesu o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys: Asesu gan athrawes/athro.

Y Cyfnodau Allweddol ar gyfer asesu fydd tymor olaf y plentyn yn y Cyfnod Sylfaen a’i dymor olaf yn yr Adran Iau (Blwyddyn 6).