Cyfnod Sylfaen 1

GWAITH CARTREF

Bydd gwaith cartref yn cael ei hanfon allan bob dydd Gwener a bod yn ôl y dydd Llun canlynol.

LLYFR DARLLEN

Mae angen i’r plant sicrhau eu bod nhw yn dod â’u llyfrau darllen a chofnodion darllen personol i’r ysgol bob dydd Llun. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau Darllen dan Arweiniad drwy’r wythnos, ac rydym yn annog y disgyblion i ddarllen gartref i oedolyn yn rheolaidd, o leiaf unwaith yr wythnos. Rydym hefyd yn annog rhieni i ysgrifennu sylwadau yn y cofnod darllen pan fydd eich plentyn wedi darllen.

FFRWYTHAU

Rydym yn cael ffrwythau bob prynhawn lle mae eich plentyn yn gallu dod â darn o ffrwyth neu fyrbryd iach. Gwnewch yn siŵr bod yr holl botiau ffrwythau neu ffrwythau wedi’u labelu’n glir gydag enw eich plentyn.

YMARFER CORFF

Fe fydd gwersi ymarfer corff i blant Cyfnod Sylfaen 1 ar ddydd Mawrth. Fe fydd angen dillad addas (e.e. siorts, crys ‑T a dapiau) i’r wers.

GWISG YSGOL

A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn wedi ei labeli yn glir ar ei wisg/gwisg ysgol os gwelwch fod yn dda. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am waith eich plentyn a / neu les yn yr ysgol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.

Diolch

Miss Thomas