Persenoldeb - Cod Ymddygiad

Cod Ymddygiad ar gyfer Hysbysiadau Cosb

Presenoldeb Afreolaidd yn yr Ysgol/ Darpariaeth Addysg Amgen

Sail a rhesymeg gyfreithiol
Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysiad Cosb) (Cymru) Llywodraeth Cymru 2013 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol (ALl), yn ôl y gyfraith, gadw at adran 444A o Ddeddf Addysg 1996 i gynnwys hysbysiadau cosb fel un o’r ymyriadau i wella presenoldeb mewn ysgolion. Mae hyn yn golygu bod “yn rhaid rhoi sylw i’r canllawiau hyn ac mae disgwyl iddynt gael eu dilyn oni bai bod rheswm da dros wyro oddi wrthynt” (Dogfen Canllawiau 2013 t3).
Mae presenoldeb rheolaidd a phrydlon disgyblion yn yr ysgol yn ofyniad cyfreithiol ac yn hanfodol er mwyn i ddisgyblion wneud y mwyaf o’r cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt. Yn gyfreithiol, mae trosedd yn cael ei chyflawni os yw rhiant/gofalwr yn methu â sicrhau bod ei blentyn yn mynychu’r ysgol / darpariaeth amgen, ac nad yw’r absenoldeb wedi ei awdurdodi gan yr ysgol. Yn ôl adrannau 444A a 444B o Ddeddf Addysg 1996, gellir ymdrin â rhai achosion o absenoldeb anawdurdodedig trwy gyflwyno hysbysiad cosb. Mae hysbysiad cosb yn ddirwy o hyd at £120 a chaiff ei gyflwyno i riant/gofalwr plentyn sy’n colli’r ysgol / darpariaeth amgen yn rheolaidd.


Mae cyfrifoldeb allweddol ar ALlau o fewn ERW, Consortiwm y De Orllewin sef Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe, Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot, i ddatblygu’r protocol y bydd yr holl bartneriaid a enwir yn Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 yn gweithio o’i fewn, a bydd pob ALl yn gyfrifol am weithredu hyn. Mae’r hawl gan Benaethiaid, gan gynnwys eu dirprwyon a’u penaethiaid cynorthwyol awdurdodedig, a’r heddlu i ofyn am hysbysiad cosb mewn perthynas â rhiant/gofalwr plant sy’n dioddef absenoldeb anawdurdodedig o’r ysgol / darpariaeth addysg amgen. Mae’n rhaid i broses cyflwyno hysbysiadau cosb gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Hawliau Dynol a phob deddfwriaeth Cyfleoedd Cyfartal.


Bydd yr ALlau o fewn ERW yn parhau i ymchwilio i achosion presenoldeb afreolaidd yn yr ysgol / darpariaeth addysg amgen, ac yn dilyn gwaith achos priodol, gan gychwyn ar gamau cyfreithiol pe ystyrir yn briodol. Fodd bynnag, mae hysbysiadau cosb yn cynnig ffordd o ymyrryd yn fuan, a gall holl ALlau ERW ddefnyddio’r dull hwn i ymdrin ag achosion o absenoldeb cyn iddynt ymwreiddio. Bydd y mater o gyflwyno hysbysiadau cosb yn seiliedig ar feini prawf trothwy clir a fydd yn cael eu cymhwyso’n gyson ac yn deg ar draws ERW. Mae’n rhaid i bob person sydd â’r awdurdod i gyflwyno (a gwneud cais am gyflwyno) hysbysiad cosb gydymffurfio â’r canllawiau a roddir yn y cod ymddygiad hwn.

Cynhwysiant a materion cydraddoldeb
Mae’r ALlau o fewn ERW wedi ymrwymo i godi cyflawniad eu holl ddisgyblion yn barhaus. Mae disgwyliad y bydd yr holl ddisgyblion, waeth bynnag eu hamgylchiadau neu anghenion unigol, yn gallu elwa ar addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol os yw ein disgyblion am fod yn llwyddiannus ac elwa ar y cyfleoedd a roddir iddynt. Er mwyn galluogi plant i gyflawni eu potensial llawn yn ystod y tymor ysgol mae presenoldeb rheolaidd a phrydlondeb yn hanfodol. Mae presenoldeb rheolaidd hefyd yn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn lleihau’r cyfleoedd i chwarae triwant a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwrthgymdeithasol.  

Caiff rhieni / gofalwyr a disgyblion eu cefnogi ar lefel ysgol / darpariaeth addysg amgen i oresgyn rhwystrau rhag mynychu’n rheolaidd, gydag ystod eang o strategaethau asesu ac ymyriad. Mae cosbau o unrhyw natur ond i’w defnyddio pan nad oes unrhyw gydweithrediad o gyfeiriad y rhieni, neu lle nad oes digon o gydweithrediad i ddatrys y broblem dan sylw. Mae’r gosb ychwanegol hon yn fodd o orfodi presenoldeb lle credir yn rhesymol y bydd ei defnydd yn arwain at welliant.

Polisi a Chyhoeddusrwydd
Er mwyn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwbl ymwybodol o ddeddfwriaeth hysbysiadau cosb, disgwylir i bob ysgol, gyda chymorth ei chorff llywodraethol, amlinellu gwybodaeth am hysbysiadau cosb yn glir yn ei pholisi presenoldeb a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i rieni ar ddechrau pob blwyddyn academaidd (Atodiad 1).

Ceir diffiniad o riant/gofalwr yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996, sef y person y mae’r plentyn yn byw gydag ef, waeth beth yw perthynas y person hwnnw gyda’r plentyn (“Rhieni” a “Cyfrifoldeb Rhieni”, Llywodraeth Cymru, 2007).  

Ystyriaethau cyfreithiol ymarferol
Mae hysbysiad cosb yn £60 os caiff ei dalu o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad; Mae hyn yn codi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 diwrnod ond o fewn 42 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad;  

Os na chaiff y gosb ei thalu’n llawn erbyn diwedd y 42 diwrnod, rhaid i’r ALl naill ai erlyn y rhiant am y drosedd neu ddiddymu’r hysbysiad.  

Caiff rhiant ei erlyn am y drosedd o fethu â sicrhau presenoldeb yn yr ysgol, ac nid am beidio â thalu dirwy’r gosb. Gwneir yr erlyniad o dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.  

Dan amgylchiadau cyfyngedig yn unig y dylid diddymu unrhyw hysbysiad cosb fel yr amlinellir yn y cod ymddygiad hwn.  

Cyflwyno hysbysiad cosb
Er mwyn osgoi dyblygu cyflwyniad hysbysiadau cosb, bydd cyfrifoldeb llwyr dros y trefniadau rheoli a phrosesu yn ERW yn parhau gyda phob ALl. Bydd swyddog awdurdodedig, yn unol â’i ddisgresiwn, yn penderfynu os dylid cyflwyno hysbysiad cosb i un neu fwy o rieni / gofalwyr plentyn. Bydd hyn yn ddibynnol ar union amgylchiadau pob achos unigol.  

Bydd pob ALl yn gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth gydag ysgolion a swyddogion heddlu lleol i sicrhau’r canlynol:

  • Mae’n rhaid i’r plentyn fod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol lle bydd y pennaeth neu ei ddirprwy awdurdodedig neu bennaeth cynorthwyol yn gwneud cais am yr hysbysiad cosb;
  • Dim ond mewn achosion o absenoldeb anawdurdodedig y gellir cyflwyno hysbysiad cosb; dylid ond cyhoeddi hysbysiadau am droseddau lle mae’r ALl yn gallu erlyn ac yn barod i erlyn. Dylai’r ALl fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddangos bod y rhiant / gofalwr wedi cyflawni trosedd dan adran 444(1) o Ddeddf Addysg 1996;
  • Cyfyngir y defnydd o hysbysiadau cosb i uchafswm o dri hysbysiad fesul rhiant disgybl mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
  • Gellir cyflwyno hysbysiadau cosb ar gyfer mwy nag un plentyn mewn achosion lle ceir mwy nag un plentyn gyda lefel presenoldeb gwael mewn teulu;
  • Ni fydd cyfyngiad ar nifer y troeon y gall rhiant dderbyn rhybudd ysgrifenedig o hysbysiad cosb posibl;
  • Os yw’r sawl sy’n derbyn hysbysiad cosb yn symud i ardal ALl arall yng Nghymru, yna mae’r hysbysiad cosb yn symud gyda nhw;
  • Ni ellir cyflwyno hysbysiadau cosb os oes camau cyfreithiol eisoes wedi’u cyflwyno adeg y cais neu os oes bwriad i’w cyflwyno yn erbyn y rhiant/gofalwr yn ôl adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (Rheoliadau adran 14 (b)).

Amgylchiadau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb
Dylai’r meini prawf allweddol fod fel a ganlyn:  

  • Pan fydd disgybl wedi colli lleiafswm o 10 sesiwn (pum diwrnod ysgol) yn y tymor presennol oherwydd absenoldebau anawdurdodedig, a bod hynny’n golygu bod ei lefel presenoldeb ysgol yn is na 90% hyd yma yn y flwyddyn ysgol (nid oes raid i’r absenoldebau hyn fod yn olynol);
  • Absenoldebau anawdurdodedig o leiafswm o 10 sesiwn (pum diwrnod ysgol) oherwydd gwyliau yn ystod y tymor os yw’r absenoldebau hynny yn golygu bod lefel presenoldeb y disgybl yn is na 90% hyd yma yn y flwyddyn ysgol (nid oes raid i’r absenoldebau hyn fod yn olynol);
  • Cyrraedd yr ysgol yn hwyr yn barhaus h.y. ar ôl i’r gofrestr gau (cod ‘U’ yn Nogfen Canllawiau Codau 2010). Er dibenion y ddogfen hon, mae parhaus yn golygu cyrraedd yn hwyr ar gyfer lleiafswm o 10 sesiwn yn y tymor presennol; nid oes raid i’r rhain fod yn olynol, ond dylent olygu bod ei lefel presenoldeb y disgybl yn is na 90% hyd yma yn y flwyddyn ysgol;
  • Dylid nodi y bydd hysbysiadau cosb ond yn cael eu cyflwyno drwy’r post; ni fyddant yn cael eu cyflwyno fel cam cyntaf, e.e. yn ystod Gweithrediadau Triwantiaeth. Bydd hyn yn galluogi swyddogion i sicrhau bod yr holl ofynion o ran tystiolaeth yn eu lle a bydd hefyd yn cyfyngu ar risgiau iechyd a diogelwch i unigolion.

Cais ysgol ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb
Os yw ysgol wedi adnabod bod cyfnod o absenoldeb anawdurdodedig wedi digwydd, gellir cyflwyno cais i’r ALl am gyflwyno hysbysiad cosb. Mae pob pennaeth yn flynyddol yn gallu awdurdodi ei ddirprwy enwebedig neu Bennaeth Cynorthwyol i wneud cais am hysbysiadau cosb (Atodiad 2). 

Dylai gwaith papur yr ysgol gynnwys:  

  • Cadarnhad bod gwybodaeth wedi’i hanfon i holl rieni ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sy’n nodi’n glir y gall rhieni dderbyn hysbysiad cosb;
  • Os yw’n cyfeirio at wyliau yn ystod y tymor, yna copi o ffurflen gais gwyliau ERW;
  • Copi o ddogfen cofrestru’r disgybl;
  • Ffurflen gais am hysbysiad cosb wedi’i llenwi (Atodiad 3)

Ni chyflwynir hysbysiad cosb yn achos Plant Sy’n Derbyn Gofal (LAC) neu rai sy’n destun ymyriad gan yr ALl. 

Cais gan rieni am wyliau adeg tymor (heb ei awdurdodi gan yr ysgol)
Lle mae ysgol yn gwneud cais am hysbysiad cosb mewn ymateb i gais gan rieni am absenoldeb anawdurdodedig (absenoldeb awdurdodedig mewn perthynas â gwyliau), ni fydd y llythyr ysgrifenedig ffurfiol na’r cyfnod gwella 15 diwrnod yn berthnasol. 

Bydd yr ALl ond yn ystyried cyflwyno hysbysiadau cosb ar gais ysgol mewn ymateb i gais rhieni am absenoldeb anawdurdodedig yn unig mewn achosion lle mae’r ysgol wedi darparu’r gwaith papur sy’n ofynnol. Dylai’r gwaith papur hwn gynnwys:

  • Copi o’r wybodaeth anfonwyd i holl rieni yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol sy’n nodi’n glir y gall rhieni dderbyn hysbysiad cosb;
  • Copi o ffurflen gais gwyliau ERW a gyflwynwyd gan y rhiant, ynghyd â chopi o ymateb yr ysgol yn gwrthod y cais;
  • Tystysgrif presenoldeb neu gofrestru perthnasol y disgybl;
  • Ffurflen gais am hysbysiad cosb wedi’i llenwi (Atodiad 3)

Y weithdrefn ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb
Bydd yr ALl yn ymateb i holl geisiadau i gyflwyno hysbysiadau cosb o fewn 10 diwrnod ysgol i dderbyn y cais, a ble mae’n fodlon bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i darparu a bod cyflwyno’r hysbysiad cosb yn briodol (Atodiad 4). Mae cyfrifoldeb pwysig ar bob ALl o fewn ERW i ddatblygu’r protocol y bydd yr holl bartneriaid a enwir yn Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 yn gweithio o’i fewn, a bydd pob ALl yn gyfrifol am ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn. Mae’r hawl gan Benaethiaid, eu dirprwyon enwebedig, yr heddlu ac awdurdodau lleol cyfagos i ofyn am hysbysiad cosb. Mae’n rhaid i’r ALl sicrhau na fyddai cyflwyno hysbysiad cosb yn gwrthdaro gyda strategaeth ymyriad cyfreithiol arall sydd eisoes ar y gweill, neu sydd ar fin ei gweithredu, yn ôl Deddf Addysg 444(1) neu 444(1A).  

Mae’r weithdrefn fel a ganlyn:
Mae’r ALl yn derbyn cais am hysbysiad cosb, ac yn cynnal gwiriadau perthnasol (Atodiad 3);
Mae’r ALl yn anfon rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i’r rhiant/gofalwr yn eu hysbysu bod modd iddynt dderbyn hysbysiad cosb. Ni fydd absenoldebau sy’n digwydd oherwydd gwyliau adeg tymor yn derbyn rhybudd (Atodiad 5).
Mae’r ALl yn pennu cyfnod o 15 diwrnod ysgol i alluogi’r rhiant/gofalwr i ymateb. Yn ystod y 15 diwrnod, byddai gan rieni/gofalwyr yr hawl i ddarparu unrhyw dystiolaeth y maen nhw’n dymuno ei dangos i’r ysgol, gan gynnwys tystiolaeth feddygol, i ddadlau na ddylid cyflwyno’r hysbysiad cosb.
Bydd y pennaeth/person enwebedig wedyn yn penderfynu os gellir derbyn y dystiolaeth a diwygio’r gofrestr.
Er enghraifft, os oes tystiolaeth feddygol i gefnogi’r absenoldebau, yna efallai y bydd yn rhaid cywiro’r cofrestrau gan ddefnyddio’r cod priodol. Mewn achosion o’r fath, ni chaiff yr Awdurdod Lleol gyhoeddi hysbysiad cosb.
Os na ddarperir tystiolaeth neu os nad yw’r pennaeth/person enwebedig yn derbyn yr absenoldebau, yna mae’n bosibl i’r ALl gyflwyno hysbysiad cosb gan ddefnyddio post dosbarth cyntaf (Atodiad 6); Os telir y gosb, ni fydd unrhyw gamau pellach;
Os na cheir taliad, yna gellir diddymu’r achos neu symud ymlaen i erlyn yn ôl Deddf Addysg 1996 adran 444.

Talu hysbysiad cosb
Bydd gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer talu ar yr hysbysiad cosb.
Trwy dalu’r hysbysiad, mae atebolrwydd y rhiant/gofalwr am y cyfnod dan sylw wedi dod i ben, ac ni fydd yn cael ei erlyn yn ddiweddarach o dan unrhyw bwerau gorfodi eraill (adran 444 o Ddeddf Addysg 1996) am yr un cyfnod dan sylw yn yr hysbysiad.
Bydd yr ALl yn cadw’r refeniw o hysbysiadau cosb i dalu costau gorfodi. Fodd bynnag, rhaid rhoi unrhyw arian dros ben i Gronfa Gyfunol Cymru.
Ni ellir talu fesul rhandaliadau.  

Peidio â thalu hysbysiad cosb
Mae peidio â thalu hysbysiad cosb yn gallu arwain at weithdrefnau erlyn o dan Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.

Diddymu hysbysiad cosb
Nid oes hawl apelio statudol yn erbyn cyflwyno hysbysiad cosb, ond lle mae rhiant yn herio cyflwyniad hysbysiad cosb, mae’n bosibl iddynt gyflwyno unrhyw gŵynion i’r ALl a/neu ddewis wynebu achos yn y Llys Ynadon dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996, lle mae’n bosibl trafod yn llawn yr holl faterion sy’n ymwneud â’u hysbysiad cosb.  

Unwaith y mae’r hysbysiad cosb wedi ei gyflwyno, caniateir i’r ALl ei ddiddymu os yw’n fodlon:
bod yr hysbysiad cob wedi ei gyflwyno i’r unigolyn anghywir;
na ddylid fod wedi cyflwyno’r hysbysiad cosb yn y lle cyntaf, h.y. pan fo wedi’i gyflwyno oddi allan i amodau’r Cod Ymddygiad hwn neu os nad oes trosedd wedi’i chyflawni;
bod amgylchiadau’r achos yn cyfiawnhau ei ddiddymu;
bod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau go iawn.  

Os yw hysbysiad cosb wedi ei ddiddymu’n unol â’r uchod, rhoddir gwybod am hynny i’r sawl a dderbyniodd yr hysbysiad a chaiff unrhyw swm a dalwyd ei ad-dalu i’r unigolyn a’i talodd. Ni fydd unrhyw weithrediadau’n parhau nac yn cael eu sefydlu yn erbyn y sawl oedd yn destun y drosedd mewn cysylltiad â’r hysbysiad a ddiddymwyd nac am drosedd o dan adrannau 444(1)/444(1A) o Ddeddf Addysg 1995 yn deillio o’r un amgylchiadau.  

Adolygu ac adrodd yn flynyddol
Bydd yr ALl yn gwerthuso effeithiolrwydd hysbysiadau cosb yn flynyddol ac yn diwygio ei strategaeth orfodi cyffredinol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad hwn ar gael i bennaeth y gwasanaeth.  

Sut i gael rhagor o wybodaeth
Os am ragor o wybodaeth am weithredu’r Cod Ymddygiad hwn a’r Hysbysiadau Cosb o fewn Sir Gar dylid cysylltu â’r Swyddog Ymyriadau Cynnar, yn yr Adran Addysg. Educationwelfare@sirgar.gov.uk 01267 234567 

Atodiadau
Atodiad 1:    Llythyr ysgol
Atodiad 2:    Ffurflen awdurdodi’r Pennaeth
Atodiad 3:    Ffurflen gais am hysbysiad cosb
Atodiad 4:    Rhestr wirio’r ALl
Atodiad 5:    Hysbysiad rhybudd
Atodiad 6:    Llythyr hysbysiad cosb  

Cyfeiriadau
Deddf Plant 1989 – diffiniad “rhiant”;
“Rhieni” a “Cyfrifoldeb Rhieni” (Llywodraeth Cymru 2007) Deddf Addysg 1996 – adran 444;
Rheoliadau Addysg (Hysbysiad Cosb) (Cymru) Llywodraeth Cymru 2013;
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr hawl i addysg Erthygl 28).