Hunan-Werthuso 2018

 13.11.18

Canlyniadau’r Holiaduron

Diolch yn fawr i bawb wnaeth ymateb i’r holiadur.  Cafwyd 129 o ymatebion.  Gwelir y canlyniadau isod, gydag ymateb yr ysgol i’r hyn a nodwyd yn y tabl.  Rhoddwyd holiadur tebyg ond mwy syml i’r plant, gydag ymateb y plant yn bositif iawn ar y cyfan.  Gwelir dau brif ofid y plant ar y dudalen olaf a sut bydd yr ysgol yn ymateb i’r gofidiau yma.  Os nad ydw i wedi ymateb i’ch sylw unigol, neu os hoffech sgwrs bellach plîs cysylltwch â’r ysgol i drefnu apwyntiad i ni drafod ymhellach.

 Ticiwch Un   Blwch
  Yr Ysgol Cytuno’n Gryf/Cytuno Anghytuno/ Anghytunon Gryf  Ymateb   yr Ysgol
Mae fy mhlentyn yn hoffi’r ysgol hon98%2% 
Cafodd fy mhlentyn help i ymgynefino’n dda pan ddechreuodd   yn yr ysgol.99%1% 
Credaf fod fy mhlentyn yn gwneud cynnydd da yn yr ysgol.99%1% 
Credaf fod disgyblion yn ymddwyn yn dda yn yr Ysgol.94%6%Gwelir ymateb holiadur y plant ar y dudalen olaf.
Credaf fod fy mhlentyn yn ddiogel yn yr Ysgol98%2% 
Nid yw plant eraill yn bwlio fy mhlentyn 91%9%Gwelir ymateb holiadur y plant ar y dudalen olaf.
Credaf fod yr ysgol yn delio’n dda ag unrhyw fwlio,   aflonyddu neu wahaniaethu, os bydd yn digwydd93%7%Gwelir ymateb holiadur y plant ar y dudalen olaf.
Credaf fod ansawdd yr addysgu yn dda.100%0% 
Credaf fod fy mhlentyn yn cael profiadau dysgu da, gan   gynnwys teithiau ac ymweliadau addysgol100%0% 
Credaf fod y staff yn disgwyl i’m plentyn weithio’n galed a   gwneud ei (g)orau.100%0% 
Credaf fod staff yn trin pob un o’r plant yn deg ac yn  eu parchu.93%7% 
Credaf fod yr ysgol yn helpu fy mhlentyn i ddeall y modd y gall bwyta   ac yfed effeithio a rhoi iechyd.98%2% 
Credaf fod fy mhlentyn yn cael digonedd o gyfleoedd i wneud   ymarfer corff yn rheolaidd yn yr ysgol.92%8%Mae’r ysgol bellach yn cynnig mwy a mwy o gyfleoedd ymarfer corff –   cystadlaethau pêl droed/rygbi i fechgyn a merched, clybiau Urdd ac aml   sgiliau ar ôl ysgol. Byddwn yn cynnig cyfleoedd pellach yn y flwyddyn i ddod.
Credaf fod yr ysgol yn helpu fy mhlentyn i aeddfedu a chymryd   cyfrifoldeb.99%1% 
Credaf fod fy mhlentyn yn cael cymorth ychwanegol pan fydd ei angen   arno/arni. 99%1% 
Credaf fod yr ysgol yn fy hysbysebu’n dda am gynnydd fy   mhlentyn.87%13%Eleni byddwn yn cynnal Noson Rhieni bob tymor. Yn ystod yr   ail gyfarfod rhieni bydd cyfle i rieni weld gwaith  plant.
Mae’r ysgol yn gofyn am fy marn fel rhiant ac yn ystyried yr   adborth rydw i’n ei ddarparu am yr ysgol.87%13%Yr holiadur yw’r cam cyntaf wrth sicrhau bod yr ysgol yn gwrando ar   lais y rhieni ac yn ymateb i’w pryderon.
Os byddaf yn rhannu problemau neu faterion a’r ysgol, mae’n   ymateb yn dda ac yn delio a nhw yn briodol.95%5% 
Credaf fod fy mhlentyn yn gallu manteisio ar ddigon o lyfrau   ac offer yn yr ysgol i gefnogi’r dysgu. 100%0% 
Credaf fod yr ysgol yn cael ei rhedeg a’i rheoli’n  dda. 99%1% 
Credaf fod yr ysgol yn paratoi fy mhlentyn yn dda ar gyfer   symud ymlaen i’r ysgol nesaf. 97%3% 

13.11.18

Sylwadau Estynedig gan Rieni

Cryfderau’r Ysgol – yn ôl ymateb rhieni

Safon uchel o addysgu a dysgu

Cymraeg yn datblygu’n dda

Trydar

Atmosffer hapus

Cefnogaeth ychwanegol arbennig

Croeso arbennig i hwyr ddyfodwyr

Cyfathrebu yn dda

Disgyblaeth arbennig

Lle i Wella

Ond un noson rieni

Mwy o weithgareddau chwaraeon

Mwy ar drydar

Cyfleoedd i gystadlu yn yr Urdd

Mwy o glybiau ar ôl ysgol 

Taliadau ar lein

Mwy o wibdeithiau/aros dros nos

Diwrnodau Agored i blant newydd

Gwybodaeth ar Ysgol Ystalyfera

Dosbarthiadau i ddysgu Cymraeg i oedolion

CRA i fod yn fwy actif

Byddaf yn ymateb maes o law i’r ymatebion yma

Holiadur y Plant

Ymatebion positif iawn, gyda ond 2 ateb o dan 90%

Ymddygiad plant amser chwarae – 14% o blant yn pryderu am ddigwyddiadau amser chwarae

Camau Nesaf – Hyfforddi plant Bl 5 a 6 i fod yn Heddychwyr yr iard. Edrych ar fwy o adnoddau i ddiddanu’r plant ar yr Iard. Cyngor Ysgol i benderfynu ar rheolau’r iard.

Pryderon am fwlio – 12% o blant yn pryderu am fwlio (Plant Bl 3 a 4 yn enwedig)

Camau Nesaf –  Ysgol i fabwysiadu system speakr – Bl 3 a 4 i dreialu – Speakr – system sydd yn galluogi’r disgyblion rannu pryderion neu ofidion gyda staff.  Defnyddio PC Kev i siarad gyda’r plant.

Diolch am yr holl ymatebion

Lee James

Prifathro/Headteacher