Clybiau

Mae gweithgareddau allgyrsiol o bwys mawr i’r ysgol am nifer o resymau. Maen nhw’n rhan allweddol o ddatblygiad addysgol a phersonol yr unigolyn. Er bod yr ysgol yn gwasanaethu dalgylch penodol, ei bwriad yw ehangu gorwelion y disgyblion trwy ymweliadau i’r theatr, y sinema a mannau o ddiddordeb arbennig, gweithgareddau’r Urdd a chyngherddau ar adegau arbennig. Pan fydd ymweliad allanol yn digwydd, yna mae’r ysgol yn gwahodd rhieni i gyfrannu’n wirfoddol tuag at y costau. Anogwn y plant sy’n cyfranogi mewn gweithgareddau clybiau lleol i roi gwybod i ni am dystysgrifau ac ati a ddaeth i’w rhan. Cynhelir cyflwyniadau yng ngwasanaethau’r ysgol a derbyn y plant llongyfarchiadau ar gampau mewn clybiau a chymdeithasau yn ystod eu horiau hamdden. Mae gan y’r ysgol draddodiad cryf ym maes chwaraeon a diwylliant.