Diwrnod Ysgol

Cyfnod Sylfaen 1, 2, 3:        9.00 yb – 11.45 yb             1.00 yp – 3.00 yp 
Cyfnod Sylfaen 4, 5, 6:9.00 yb – 12.00 canol dydd1.00 yp – 3.10 yp 
Ysgol Iau (Bl. 3 – Bl. 6): 9.00 yb – 12.00 canol dydd               1.00 yp – 3.30 yp

Dechrau’r Ysgol

Mae plant yn dechrau yn y Feithrinfa yn rhan amser neu llawn amser y tymor ar ôl iddynt gael eu penblwydd yn dair. 

Gwneir trefniadau i blant fynychu’r ysgol am hanner dydd tua diwedd y tymor cyn iddynt allu gael eu derbyn. Cysylltir â’r rheini ar yr achlysuron hynny. 

Yn ystod y tymhorau cynnar dilynwn gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen er mwyn cwrdd ag anghenion plant ifanc. Cyflwynir y plentyn i ystod eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y meysydd canlynol o brofiad dysgu.

Y saith maes hynny o ddysgu a phrofiad yw: 

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datblygiad Mathemategol
Datblygiad Creadigol
Datblygiad Corfforol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
Datblygu’r Gymraeg