Rheolau'r Ysgol

CYTUNDEB CARTREF AC YSGOL

Enw’r Disgybl: _____________________________________________

Dyddiad Geni: __________________ 

1. Y RHIENI 

Ceisiwn:

  • Sicrhau bod ein plentyn yn mynychu’r ysgol yn gyson ac ar amser;
  • Sicrhau bod ein plentyn wedi ei wisgo/gwisgo’n addas ar gyfer yr ysgol a bod ganddo/ganddi ddillad addas ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff;
  • Annog ein plentyn i siarad Cymraeg ar bob cyfle posibl, am mai Categori ‘A’ yw’r ysgol;
  • Ddangos diddordeb yng ngwaith ysgol ein plentyn, gan sicrhau bod unrhyw waith cartref yn cael ei ddychwelyd i’r ysgol yn daclus ac ar y diwrnod penodedig;
  • Gefnogi canllawiau’r ysgol yn unol a welir yn llawlyfr yr ysgol;
  • Gefnogi polisi disgyblaeth yr ysgol er mwyn annog ethos positif a chyfeillgar’
  • Geisio osgoi cymryd gwyliau teulu yn ystod amser ysgol lle bo hynny’n bosibl;
  • Dalu arian cinio yn brydlon;
  • Drosglwyddo gwybodaeth ar unwaith ynglŷn â newidiadau o gyfeiriad cartref, rhif ffôn, lleoliad gwaith a chysylltiadau ar frys.

2. YR YSGOL

Ceisiwn: 

  • Greu awyrgylch hapus a gofalus, lle mae pob plentyn yn cael ei annog ac ysbrydoli i gyrraedd ei llawn botensial;
  • Gynnig addysg yn unol â’r hyn a ddisgrifir yn llawlyfr yr ysgol;
  • Gynnig ethos Cymreig a datblygu dwyieithrwydd;
  • Hysbysu rhieni am unrhyw bryderon neu broblemau dwys a godir y teimlir allay effeithio ar waith neu ymddygiad eu plant;
  • Gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar gynnydd y disgybl a chynnig cyfle i’w drafod gyda’r athrawon dosbarth;
  • Osod, marcio a monitor rhaglen o waith cartref yn unol â’r canllawiau a geir yn llawlyfr yr ysgol;
  • Gynnig ansawdd a safonau uchel yng ngwaith y plant ac ymddygiad;
  • Hysbysu rhieni mewn da bryn ynglŷn â digwyddiadau arbennig a fydd yn gysylltiedig â’r ysgol.

Arwyddwyd:________________________________(Rhiant)  

                ________________________________(Prifathro)